|
Mae xénos
yn gweithio i gyflwyno buddsoddwyr i fusnesau
a busnesau i fuddsoddwyr mewn nifer o wahanol
ffyrdd. Pan fyddwch wedi cofrestru gyda
xénos byddwch yn medru cymryd rhan
ym mhob un o'r dulliau canlynol:
Cyfatebiaeth Un-i-Un
- Mae gan fusnesau wasanaethau cydlynydd
xénos sy'n gweithio gyda hwy i
ganfod os yw proffil y cyfleoedd buddsoddi
yn cyfateb â gofynion buddsoddwyr
a gofrestrodd gyda xénos. Mae rhwydwaith
o gysylltiadau personol ynghyd â
chyrchedd i'r rhwydwaith xénos
llawn yn gwneud hwn yn wasanaeth amhrisiadwy
i fuddsoddwyr a chwmnïau.
Bwletin Misol
- Gwahoddir busnesau i gyflwyno crynodeb
250 i 300 gair yn ddienw o'r cyfle buddsoddiad
sydd ganddynt. Mae'r crynodebau, neu hysbysebion,
hyn yn ymddangos mewn bwletin misol a
anfonir at bob buddsoddwr a gofrestrodd
gyda xénos i sicrhau eu bod yn
ymwybodol o'r cyfleoedd buddsoddi sydd
ar gael iddynt. Mae buddsoddwyr sy'n mynegi
diddordeb cadarnhaol mewn busnes wedyn
yn derbyn crynodeb 2-3 tudalen o'r cynllun
busnes ac os yw eu diddordeb yn para,
byddant yn derbyn Cynllun Busnes llawn
a chyfle i gwrdd â'r cwmni i drafod
y cyfle buddsoddi a'u hymgyfraniad posibl.
Gwasanaeth Cyfateb Cronfa Ddata neu "Cyfatebiaeth Gorau"
- Cedwir manylion blaenoriaethau buddsoddi
penodol buddsoddwyr ar gronfa ddata xénos
ac mae chwiliad cyfrifiadur yn galluogi
xénos i ddynodi'r cwmniau a'r buddsoddwyr
sy'n cyfaeb orau yn seiliedig ar y blaenoriaethau
a nodwyd.
Ffora Buddsoddi
- Cynhelir ffora buddsoddi rheolaidd ledled
Cymru lle caiff busnesau gyfle i roi cyflwyniad
ffurfiol ar eu busnes i grwp o ddarpar
fuddsoddwyr. Wedyn bydd cyfle i gael trafodaeth
anffurfiol ar gyfleoedd buddsoddi a chreu
amgylchedd lle gall buddsoddwyr ffurfio
syndicatau gan ei gwneud yn bosibl i ddodi
buddsoddiadau mwy. Bydd cyfraniad i'r
gost o £100 a TAW ar gyfer y fforwm
yn daladwy gan gwmnïau'n dymuno manteisio
ar y gwasanaeth hwn.
Safle Rhyngrwyd
- Dodir pob Cynnig Buddsoddiad ar safle
Rhyngrwyd xénos i fod ar gael i
gynulleidfa fydeang o ddarpar fuddsoddwyr
os yw'r cwmni'n dymuno hynny.
Mae xénos
yn wasanaeth cyflwyno busnes sy'n arbenigo
mewn cyflwyno busnesau sy'n ymofyn cyllid
twf i fuddsoddwyr mewn dychweliad am gyfran
ecwiti yn y busnes.
I fanteisio o xénos rhaid i chi
Mae xénos yn cynnig:
- Asesiad cynhwysfawr o'ch cynllun busnes
ac argymhellion ar unrhyw addasiadau sydd
eu hangen
- Cymorth i lunio eich crynodeb di-enw
ar gyfer Bwletin xénos a gylchredir i
gronfa ddata helaeth o fuddsoddwyr yng
Nghymru a'r Deyrnas Unedig
- Cofnod am chwe mis ym Mwletin xénos;
y mis cyntaf fel cofnod llawn, gyda'r
pum mis dilynol fel crynodeb tair llinell
- Cymorth i lunio crynodeb gweithredol
2 dudalen o'ch Cynllun Busnes i apelio
at ddarpar fuddsoddwyr
- Cymorth i gyfateb eich busnes gyda chronfa
ddata ganolog xénos i ddynodi darpar
fuddsoddwyr
- Cyfle i gyflwyno mewn Ffora Buddsoddi
rheolaidd a gynhelir ledled Cymru (mae
tâl ychwanegol o £100 a TAW
yn weithredol)
- Cyrchedd i gronfa ddata'r Rhwydwaith
Angylion Busnes Cenedlaethol (NBAN) o
fuddsodwyr ar ddim cost
- Cyhoeddi eich cyfle buddsoddiad ar y
Rhyngrwyd (os dymunwch)
Ni fydd xénos
yn datgelu pwy yw buddsoddwyr os na a hyd
y bydd y buddsoddwr/ buddsoddwyr yn rhoi
caniatâd penodol i ni wneud hynny.
Nid oes unrhyw warant absoliwt y bydd gan
unrhyw fuddsoddwr ddiddordeb mewn cynnig
buddsoddiad neilltuol. Mae ffi cofrestru
o £200 ynghyd â TAW i gofrestru
gyda rhwydwaith xénos.
Mae xénos
yn wasanaeth cyflwyno busnes sy'n cyflwyno
buddsoddwyr i gwmnïau sy'n ymofyn gwerthu
diddordeb ecwiti yn eu busnes er mwyn cael
cyllid ychwanegol.
I fanteisio
o xénos dylai darpar fuddsoddwyr:
- Fod yn barod i fuddsoddi mewn cwmnïau
newydd a sefydledig heb eu dyfynnu sydd
â photensial twf sylweddol yng Nghymru
- Bod â rhwng £10,000 a £250,000
ar gael yn rhwydd i'w fuddsoddi
- Cydnabod fod buddsoddiad mewn busnes
newydd yn cario risg uchel yn ogystal
â phosibilrwydd gwobrau uchel
- Bod yn barod i roi arbenigedd rheolaeth
neu wybodaeth arbenigol i'r busnes os
bydd angen.
IYn ei dro
bydd xénos yn:
- Rhoi gwybodaeth unigryw am gyfleoedd
busnes ledled Cymru - newydd a phresennol
- a gafodd eu hadolygu gan ymgynghorydd
xénos
- Chwilio drwy gronfa ddata xénos
i gyfateb eich criteria buddsoddi gyda
chwmnïau a gofrestrodd gyda xénos
- Eich hysbysu am amrywiaeth o gyfleoedd
busnes newydd drwy gopi misol o Fwletin
xénos o gyfleoedd buddsoddi, y
bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gymwys am
gymhellion EIS
- Eich gwahodd i Ffora Buddsoddi a gynhelir
ledled Cymru lle bydd cwmnïau sy'n
ymofyn buddsoddiad yn gwneud cyflwyniadau
a lle bydd gennych gyfle i gwrdd â
buddsoddwyr eraill
- Eich gwahodd i Seminarau Buddsoddwyr
lle bydd gennych gyfle i rwydweithio gyda
buddsoddwyr eraill a derbyn gwybodaeth
gyfredol ar bynciau buddsoddiad
- Rhoi cyrchedd i'r cytundebau ar safle
rhyngrwyd xénos
- Cynnig cyfleoedd i dderbyn gwybodaeth
am ddarpar gyfarwyddiaethau anweithredol
Mae ffi cofrestru
blynyddol o £175 ynghyd â TAW
i fuddsoddwyr ymuno â'r rhwydwaith
xénos. I gofrestru llenwch y Ffurflen
Gofrestru Buddsoddwyr (XEN\IRRF01) a Chôd
Dethol Sector (XEN\SSG01), ac anfon siec
yn daladwy i "xénos" i'r
cyfeiriad canlynol
xénos - Adran
Gyllid
Prif Swyddfa
Ty Oakleigh
Park Place
Caerdydd
CF10 3DQ
Mae xénos
yn wasanaeth cyflwyno busnes sy'n cyflwyno
buddsoddwyr i gwmnïau newydd a chwmnïau
sydd wedi'u sefydlu sy'n ymofyn gwerthu
diddordeb ecwiti yn eu busnes am gyllid
ychwanegol.
Mae xénos
yn cynnig cyfle i gynghorwyr proffesiynol
gynnig rhywbeth gwahanol i'w cleientiaid.
Dim ond gyda chwmnïau heb eu dyfynnu
sy'n ymofyn cyllid ehangu neu sefydlu yr
ydym yn trafod. Fel arfer mae'r cwmnïau
hyn yn cymhwyso am gymhellion treth Cynllun
Buddsoddiad Menter (EIS) lle mae posibilrwydd
treiglo enillion a/neu osgoi treth incwm.
Nid yw xénos
yn ymwneud â'r dyfalwch dyledus a
fyddai ei angen wrth ddodi buddsoddiad,
ac nid yw ychwaith yn cynnig cyngor buddsoddi
i fuddoswyr neu gwmnïau. Fel canlyniad,
caiff y ddau barti bob amser eu cynghori
i geisio cyngor proffesiynol ar y materion
hyn. Dyma lle gall y cynghorydd proffesiynol
ychwanegu gwerth i'w cleientiaid.
Fel rhan
o'n gwasanaethau, bydd buddsoddwyr preifat
yn:
- Cael llif cryf o gyfleoedd buddsoddi
ledled Cymru
- Medru cyrchu cwmnïau o bob maint
ar draws sbectrwm llawn diwydiant
- Cael cyfle i wneud buddsoddiadau treth-effeithiol
dan gynllun EIS
- Cael posibilrwydd lliniaru enillion
treth drwy addefiant treigl cymeradwy
a darpariaethau cymorth ymddeoliad
- Medru rhwydweithio gyda buddsoddwyr
o'r un anian ac efallai syndiceiddio cytundebau
mwy
- Mynychu Ffora Buddsoddi a gynhelir yn
rheolaidd ledled Cymru
- Cael cyfle i brynu cwmnïau sydd
ar werth
- Cael gwybod am swyddi posibl fel cyfarwyddwyr
an-weithredol
Bydd cwmnïau
sy'n ceisio buddsoddiad yn:
- Cael eu cyflwyno i ffynhonnell sylweddol
o gyllid "bwlch ecwiti"
- Cael cyrchedd i ffynhonnell o gyfalaf
twf ac arbenigedd rheolaeth
- Medru cyrchu cynulleidfa fyd-eang o
ddarpar fuddsoddwyr i'r cynnig dros y
Rhyngrwyd
- Gallu cyrchu angylion busnes eraill
ledled y DU ar ddim cost ychwanegol
- Cael fforwm i hysbysebu gwerthiant gweithgareddau
heb fod yn rhai craidd
|