|
Rhwydwaith Busnes Angylion Cymru ydy xénos - gwasanaeth cyflwyno busnes sy'n cyflwyno buddsoddwyr i gwmnïau sy'n ceisio cyllid ar gyfer tyfu eu busnes ac sy'n barod i gynnig cyfran o ecwiti'r busnes i fuddsoddwyr.
Rhwydwaith Busnes Angylion Cenedlaethol Cymru ydy xénos ac mae'n cael cymorth gan y Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd. Mae xénos yn un o'r rhaglenni a gynigir gan Cyllid Cymru ac mae'n cydweithio'n agos gydag Awdurdod Datblygu Cymru, y gymuned fusnes, awdurdodau lleol, banciau a phobl broffesiynol er mwyn sicrhau bod y ffynhonnell hanfodol hon o ariannu ecwiti ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru.
Bydd Angylion Busnes sy'n cofrestru gyda xénos:
- Yn disgwyl adenillion o'r busnesau y maent yn buddsoddi ynddynt, tra'n cydnabod peryglon mawr buddsoddi
- Yn aml am gymryd rhan ymarferol wrth rheoli'r cwmni
- Yn dod ag arbenigedd penodol, profiad a rhwydwaith gwerthfawr o gysylltiadau
- Hefyd efallai yn cael y cyfle i gael swyddi Cyfarwyddwyr Anweithredol
Mae cwmnïau sy'n ceisio buddsoddiad yn elwa drwy:
- Gael arian sy'n peri tyfiant a gwireddu eu llawn potensial
- Cael arbenigedd rheoli, yn aml mewn meysydd lle mae'r cwmni yn cydnabod bod gwendid
- Cael barn arbenigwr annibynnol am eu busnes gan fudd-ddeiliad diduedd
- Sicrhau hygrededd ac awdurdod trwy gysylltiad â pherson uchel ei barch
|